Mae’r sombis yn dod!

Mae prosiect ddwyieithiog gyda disgyblion Cymraeg yn gweithio ar Sombis Rygbi gan Dan Anthony yn cychwyn ar Betwyll, diolch i Gelf ar y Blaen a Gwasg Gomer.

Rugby Zombies - Sombis Rygbi

Mae ein partneriaeth gyda Celf ar y Blaen ar Betwyll yn parhau: o 19 Medi fe fydd disgyblion o dair ysgol gynradd o Sir Dorfaen, De-Ddwyrain Cymru, yn darllen ac yn sylwi ar lyfr Dan Anthony  Sombis Rygbi. Diolch i Gwasg Gomer, fe fydd y dosbarthiadau sydd yn cymryd rhan yn y brosiect yn medru ymgysylltu yn y testun o’r ap ddarllen Betwyll mewn dau fersiwn: Cymraeg a Saesneg. Mi fydd y gweithgaredd o ddarllen mewn modd cymdeithasol ac mewn amgylchedd anffurfiol o drosglwyddo gwybodaeth a thrafod yn eu galluog i ymarfer yr iaith Gymraeg. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn gallu ymgysulltu’n uniongyrchol gyda’r awdur, fydd yn cydweithio mewn hwyluso’r brosiect gydag ysgrifennwr creadigol Rufus Mufasa, drwy gyfres o weithdai yn y dosbarthiadau.

Bydd y brosiect yn cychwyn rhwng Dydd Llun 17 hyd at Ddydd Gwener 21 Medi, gyda’n tîm yn ymweld â Chymru a chwrdd â’r athrawon sydd ynghlwm yn y brosiect ar gyfer sesiynau darllen ar y dull TwLetteratura a’r ap ddarllen gymdeithasol.

Darllen cymdeithasol ac ymlaen

Ar ôl cael eu trochi yn y broses Betwyll/TwLetteratura, bydd rhan nesaf y brosiect yn cynnwys y cyfranogwyr yn gweithio gyda’r cyhoeddwyr Gwasg Gomer er mwyn comisiynu cyfieithiad Cymraeg newydd o lyfr sydd, ar hyn o bryd, ddim ond ar gael yn yr iaith Saesneg, sef The Bus Stop at the End of the World gan Dan Anthony. Mi fydd y cyfranogwyr yn hyfforddi a helpu dau grwp newydd (un iaith Saesneg ac un iaith Gymraeg) mewn profiad darllen wedi’ rhannu, gan archwilio’r sialensau o hwyluso prosiectau darllen dwyieithiog a phenodi syniadau er mwyn helpu’r brosiect i weithio. Ar yr un pryd, mi fydden nhw’n cydweithio gyda darlunydd er mwyn dod â chymeriadau a golygfeydd y llyfr yn fyw. Fe fydd rhan yma’r brosiect yn bennu gyda lawnsiad y llyfr iaith Gymraeg newydd yn Eisteddfod yr Urdd yn mis Mai.

Yn derfynol, mi fydd pob ysgol yn cael eu hybu i ddyfeisio cyd-destunau eraill ble gall y dull TwLetteratura ei ddefnyddio mewn modd arall, ac i archwilio eu haddasiadau newydd gyda’u cyd-ddisgyblion.  Mi fydd y syniad gyda’r mwyafrif o bleidleisiau yn cael ei archwilio a’i datblygu gyda chymorth yr athrawon, yr artistiaid, a’r partneriaid eraill ar y brosiect. Mi fydd y prototeip yn cael ei destio’n gyntaf gan y disgyblion ac wedyn ei rannu gyda’r ysgolion eraill sydd ynghlwm â’r brosiect.

Yn ogystal â gwella sgiliau llythrennedd y disgyblion ac hyrwyddo defnydd creadigol ac ymwybodol o rwydweithiau cymdeithasol, bydd y brosiect hefyd yn magu datblygiad o ymarfer cydweithiol rhwng disgyblion, ysgolion a siroedd gwahanol. Mae’r brosiect hefyd yn anelu i hyrwyddo cyfleuoedd cyfartal mewn gwlad ddwyieithiog: ar un llaw, drwy hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar y naill law, i dargedu’r diffyg llyfrau i blant gan awduron cyfoes Cymreig wedi’u cyhoeddi yn Saesneg a Chymraeg.

Y rhaglen Cydweithio Creadigol

Mae’r brosiect yn rhan o’r fframwaith Cydweithio Creadigol, un o ddwy gainc o’r Gronfa Profi’r Celfyddydau. Gôl y gronfa yw – o dan y Rhaglen Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan – i ddarparu cyfleuoedd i blant a phobl ifanc i ymgysylltu yng ngweithgareddau celfyddydol a diwylliant fel rhan arferol o’u profiad dysgu.

Mae Cydweithio Creadigol yn cefnogi gweithgareddau anghofensiynol celfyddydol, diwylliannol a chreadigol gydag elfen gryf o ddyfeisio newydd. Mae’r rhaglen yn dychmygu cydweithio go-iawn rhwng sefydliadau celfyddydol ac ysgolion, ble mae’r disgyblion yn gyfranogwyr allweddol.

Hwylyswyd y brosiect yma mewn partneriaeth gyda Celf ar y Blaen, Gwasg Gomer, Llenyddiaeth Cymru, Rhwydwaith Cyfuno Torfaen a Chaerffili, a Menter Iaith Caerffili.